Nod yr Adran Fusnes yw ymrwymo a datblygu amryw o sgiliau ein ddisgyblion a’u paratoi am amrywiaeth o rolau yn yr economi. Rydym am ddatblygu dealltwriaeth o fusnes ac yn herio’r disgyblion i ddilyn datblygiadau’r byd sydd yn newid yn gyflym. Mae ein cwricwlwm yn sicrhau bod ein disgyblion yn astudio amrywiaeth o bynciau megis Entrepreneuriaid, Perchnogaeth Busnes, Strategaethau Marchnata Adnoddau Dynol, Rheolaeth, E-fasnach, Cyllido a Chyllid Busnes. Nod y pynciau hyn yw sicrhau bod y disgyblion yn elwa o’r ymwybyddiaeth eang fydd yn eu sbarduno nhw, pa bynnag gyfeiriad byddan nhw’n dewis yn y dyfodol.
Fel adran, rydym yn annog dysgwyr i gymhwyso eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth i wahanol gyd-destunau busnes, yn cynnwys amrywiaeth o fusnesau o fentrau bach i gwmnïau rhyngwladol mawr, a busnesau sydd yn gweithredu’n lleol, cenedlaethol a byd-eang. Bydd y cyrsiau Busnes cyffrous yma yn sbarduno ymchwilio, archwilio ac adolygu, er mwyn hybu ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd gyrfa sydd ar gael iddynt