Croeso i Ddosbarth Gwion Gwiwer (Blwyddyn 1)
Croeso cynnes i chi i dudalen Blwyddyn 1. Miss Richards sy’n ein dysgu ni gyda chymorth Miss Jones a Mrs Greenley. Eleni, dosbarth bychain ydyn o ddisgyblion hapus a brwdfrydig. Rydym yn mwynhau dysgu pethau newydd bob dydd trwy chwarae ac arbrofi yn ardaloedd y dosbarth, tu fewn a thu allan!
Thema tymor y Gwanwyn: Fi a Fy Myd
Staff Gwion Gwiwer:
Athrawes Dosbarth : Miss Richards
Athrawes CPA : Mrs Vincent
Cynorthwywyr Dysgu : Miss Jones, Mrs Greenley
Gwybodaeth bwysig:
- Cynhelir gwersi Ymarfer Corff bob dydd Mawrth – gwisgwch eich gwisg i’r ysgol
- Mae llyfrau darllen yn cael eu dosbarthu yn wythnosol. Gofynnwn yn garedig bod y llyfr darllen yn dychwelyd i’r ysgol ar y dydd a nodir ar flaen y blygell er mwyn i’ch plentyn dderbyn llyfr newydd
- Gofynnir bod disgyblion yn dod â darn o ffrwyth a photel o ddŵr i’r ysgol bob dydd
- Byddwn yn cynnig diod o laeth i ddisgyblion Blwyddyn 1 bob dydd
- Cofiwch i labelu popeth gydag enw eich plentyn!