Mae’r amser pan fydd eich plentyn yn dechrau’r ysgol yn gyfnod hynod gyffrous i chi fel teulu a mawr obeithiwn y byddwch yn dewis Ysgol Llanhari ar gyfer taith addysgiadol 3-19 eich plentyn.
Os fydd eich plentyn yn cael cynnig lle yn dilyn eich cais, edrychwn ymlaen at eich croesawu fel teulu a dod i’ch adnabod yn y dyfodol agos.
Rydym yn croesawu rhieni a gofalwyr i’r ysgol am daith i weld yr adran a’n cyfleusterau. Mae hi hefyd yn gyfle am sgwrs anffurfiol ac i chi ofyn cwestiynau os ydych yn dymuno. Gellir trefnu apwyntiad trwy gysylltu â chlerc yr adran Gynradd ar 01443 237824 neu drwy anfon ebost at edavies@llanhari.com
Gwneud Cais
Os hoffech i’ch plentyn fynychu Ysgol Llanhari, cewch fanylion yn y llyfryn ‘Dechrau’r Ysgol’. Cynigir lleoedd i ddisgyblion yn ôl meini prawf Awdurdod Addysg Rhondda Cynon Taf. Dylai rhieni sy’n ansicr ynghylch talgylch yr ysgol neu’r meini prawf gysylltu â’r ysgol a / neu Adran Mynediadau Disgyblion, Addysg a Dysgu Gydol Oes, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, Rhondda Cynon Taf, CF45 4UQ (Ffôn 01443 744000)
Cyswllt i lyfryn Dechrau’r Ysgol