Mae lefelau presenoldeb uchel yn sicrhau bod pob disgybl yn manteisio’n llawn ar y cyfleoedd addysgiadol, cymdeithasol a diwylliannol eang ac amrywiol sy’n cael eu cynnig o fewn yr ysgol.
Y profiadau hyn sy’n cynorthwyo pob disgybl i dyfu’n unigolyn hyderus, cyflawn. Gweithia’r ysgol yn agos iawn gyda disgyblion, rhieni a’r Gwasanaeth Presenoldeb a Lles er mwyn sicrhau nad yw patrymau presenoldeb yn atal disgyblion rhag datblygu. Gosodwn dargedau presenoldeb uchel i bob disgybl. Ymfalchïwn yng nghyfraddau presenoldeb hynod o uchel yr ysgol sy’n arwydd o ddisgyblion hapus ac yn cyfrannu’n fawr at eu safonau uchel o gyrhaeddiad.