Mae gan Ysgol Llanhari dîm o athrawon brwdfrydig sy’n symbylu ac yn ysbrydoli disgyblion i ddymuno dysgu a’u herio i anelu’n uchel.
Rhown bwyslais mawr ar ddatblygu’r dulliau dysgu ac addysgu diweddaraf gan raeadru’r addysgeg a’r arfer orau diweddaraf ar draws yr ysgol. Anogir dulliau dysgu amrywiol sy’n ddisgybl ganolog ac sy’n cynnig cyfleoedd i ddisgyblion gydweithio, datrys problemau, gweithio fel aelodau o dîm, gwneud damcaniaethau a datblygu barn a safbwyntiau, gwneud cysylltiadau a throsglwyddo gwybodaeth. Mae dulliau o’r fath yn datblygu hunan-hyder a hunan-werth disgyblion yn ogystal â’u gwneud yn ddysgwyr mwy annibynnol ac effeithlon. Hybir datblygiad sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol disgyblion mewn modd naturiol yn yr ymwneud cyson hwn yn ogystal â’u sgiliau meddwl a’u dealltwriaeth o sut i ddysgu. Drwy wahaniaethu effeithiol, sicrhawn bod yr holl ddisgyblion, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwnaegol/penodol a’r mwy abl a thalentog yn profi dysgu ac addysgu wedi ei bersonoleiddio sy’n addas ar eu cyfer.