Croeso i Ddosbarth Dewi Draenog (Meithrin)
Ein nod yn yr Adran Feithrin yw creu awyrgylch hapus, groesawgar a hamddenol ble mae’r plant yn teimlo’n ddiogel ac yn mwynhau profi amrywiaeth o weithgareddau chwarae sy’n fwriadol a strwythuredig.
Mae yna 24 o ddisgyblion yn ein dosbarth eleni a rydyn ni’n cael hwyl a sbri bob dydd! Rydyn ni’n mwynhau dysgu, canu a chwarae gyda’n ffrindiau a’n hathrawon. Rydym yn gofalu am ein masgot dosbarth, Dewi Draenog, ac yn helpu’n gilydd ym mhob ffordd posib er mwyn sicrhau fod pawb yn hapus!
Staff y Feithrin:
Arweinwyr: Mrs Tessa Williams (CALU), Mrs Cerys Vincent (CALU)
Cynorthwywyr Addysgu : Mrs Ceri Williams, Mrs Amanda Impey
Diwrnod Ysgol:
Sesiwn y Bore: 8:50 – 11:30
Cinio ac Egwyl: 11:30 – 12:15
Sesiwn y Prynhawn: 12:15 – 3:10 (Llawn amser)
Gwybodaeth Bwysig:
Diwrnod Ymarfer Corff: Dydd Mawrth
Plant i ddod â photel dŵr a darn o ffrwyth i’r ysgol bob dydd.
Sicrhewch bod enw eich plentyn ar bopeth os gwelwch yn dda!