Mae disgyblion yr adrannau cynradd ac uwchradd yn cydweithio’n effeithiol iawn fel un cyngor ysgol brwdfrydig.
Rhydd y cyngor gyfle gwych iddynt ddatblygu sgiliau personol eang iawn a sicrhau llais i’r disgyblion ar faterion ysgol gyfan. Etholir disgyblion i’r Cyngor yn flynyddol gan eu cyd-ddisgyblion. Yn ystod y blynyddoedd mwyaf diweddar, mae’r cyngor ysgol wedi gweithredu ar faterion fel ymgyrchu i sicrhau bod mwy o opsiynau bwyd iach yn y ffreutur uwchradd, sicrhau bod ffynhonau dŵr a photeli dŵr aml-ddefnydd ar gael ar draws yr ysgol, hybu Cymreictod y disgyblion, sicrhau addasiadau i’r wisg ysgol – gwisg y chweched dosbarth a gwisg ymarfer corff a mewnbwn i‘r polisi gwrth-fwlian.