Mae Ysgol Llanhari yn ysgol gynhwysol. Ein nod yw cefnogi pob disgybl i gyrraedd eu potensial. Pleser yw cynnig cymorth ar hyd y ffordd. Mae’r cymorth yma yn dechrau ar lawr y dosbarth.
Mae Mrs Elin Hobbs, ein Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol, yn arwain tîm o staff sy’n darparu’r cymorth gwerthfawr yma i ddisgyblion cynradd ac uwchradd. Mae Mrs Elin Hobbs a’r tîm yn gweithio’n agos gydag ein hysgolion clwstwr a meithrinfeydd er mwyn sicrhau bod y broses o drosglwyddo yn un cadarnhaol i bawb sydd ynghlwm. Cynigwn amrywiaeth o ymyraethau megis cymorth llythrennedd, rhifedd a sgiliau sylfaenol.
Wrth i ni baratoi am weithrediad llawn y ddeddf ALNET, cliciwch ar y gwefannau isod am fwy o wybodaeth.
https://www.rctcbc.gov.uk/EN/Resident/SchoolsandLearning/AccessandInclusiontoEducation/AccessandInclusiontoEducation.aspx
https://gov.wales/additional-learning-needs-and-education-tribunal-wales-act