Mae Ysgol Llanhari yn darparu cwricwlwm eang, cytbwys a gwahaniaethol.
Y cwricwlwm
Mae Ysgol Llanhari yn darparu cwricwlwm eang, cytbwys a chynhwysol ar draws y Camau Cynnydd. Sirhewn fod pob unigolyn yn cael mynediad at y profiadau, yr wybodaeth a’r sgiliau y mae eu hangen arnyn nhw er mwyn bod yn ddinasyddion cyfrifol, gweithredol sy’n barod i ffynnu yn yr unfed ganrif ar hugain.
Fel ysgol 3-19 amcanwn i adeiladu ar sgiliau a gwybodaeth ein disgyblion o’r Meithrin hyd at ddiwedd Blwyddyn 13. Manteisiwn ar bob cyfle i bontio rhwng y cyfnodau dysgu yn Llanhari gan rannu arbenigedd staff ar draws y sectorau cynradd ac uwchradd. Cydweithiwn er mwyn creu continwwm dysgu sy’n sicrhau dilyniant a pharhad ac sy’n hybu cyraeddiad uwch.
Y Pedwar Diben sydd wrth wraidd ein cwricwlwm. Ein dyhead ar gyfer pob plentyn yw eu bod yn datblygu i fod yn:
- ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
- ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a’r byd
- gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywydau a gwaith
- unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Mae ein cwricwlwm hyd at flwyddyn 9 yn cynnwys cyfleoedd dysgu o fewn ac ar draws bob un o’r Chwe Maes Dysgu a Phrofiad, sef:
- Iechyd a Lles
- Mathemateg a Rhifedd
- Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Dyniaethau
- Celfyddydau Mynegiannol.
Wrth wireddu’r cwricwlwm, rydym yn meithrin dealltwriaeth ein dysgwyr o addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â’r byd gwaith ynghyd ag addysg hawliau dynol ac amrywiaeth. Rhown ystyriaeth lawn hefyd i elfennau gorfodol y Cwricwlwm, sef Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM), Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh), Cymraeg a Saesneg.
Mae sgiliau trawsgwricwlaidd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol wedi’u hymwreiddio drwy’r cwricwlwm a sicrhewn fod digon o gyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu, mireinio a chymhwyso’r sgiliau yma ar draws y meysydd dysgu a phrofiad.
Blwyddyn 10 ac 11 ( 14 – 16 oed, CA4 )
Addysgir y pynciau craidd sef Cymraeg, Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth a’r ynghyd â’r dystysgrif Her Sgiliau, Addysg Gorfforol, Addysg Grefyddol, Addysg Bersonol a Chymdeithasol yn cynnwys Addysg Ryw a Byd Gwaith i bob disgybl. Caiff pob disgybl gyfle i ddewis o opsiynau o bynciau eraill hyd at safon L2 (TGAU/BTEC). Darperir gwybodaeth benodol i ddisgyblion a rhieni’n flynyddol ynglŷn â’r opsiynau.
Blwyddyn 12 A 13 ( 16 – 18 oed, CA5 )
Caiff disgyblion ddewis o ystod o bynciau i’w hastudio hyd safon L3 (Uwch Gyfrannol ac Uwch a BTEC). Astudir Addysg Bersonol a Chymdeithasol hefyd sy’n cynnwys Addysg Ryw a Byd Gwaith ac Addysg Grefyddol. Anogwn yn gryf i bob disgybl ddilyn cwrs Tystysgrif Her Sgiliau fel rhan o raglen astudlaeth gyflawn ar gyfer addysg Uwch a Phellach. Cydweithiwn ag ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg lleol (RhCT a Phenybont) mewn consortiwm er mwyn darparu arlwu ehangach o bynciau gan gynnwys rhai cyrsiau ble mae’r niferoedd yn is. Rhydd y bartneriaeth hon gyfle i’r disgyblion ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol a’u hyder y tu hwnt i’r ysgol gartref mewn paratoad ar gyfer y gweithle neu brifysgol ond gan gadw Ysgol Llanhari fel cyswllt cartref y disgybl.