Mae gan y Pennaeth a’r staff yr un weledigaeth am ein hadran Blynyddoedd Cynnar, sef creu ethos ble mae pawb yn parchu ac yn gofalu am ei gilydd, heb fod diwylliant, cenedl, rhyw, hil, gallu neu anabledd yn ystyriaeth. Cydweithiwn gyda’n gilydd i helpu pob plentyn ddatblygu’n addysgol, ond yn bwysicach fyth, yn emosiynol ac yn gymdeithasol.
Dosbarth Dewi Draenog
Mae gan adran gynradd Ysgol Llanhari adeilad ardderchog yn llawn o adnoddau a chyfarpar addas a modern. Mae Dosbarth Dewi Draenog yn agored ac yn olau, gydag ystafell gotiau a thoiledau ar wahân yn arbennig ar gyfer plant y dosbarth hwnnw. Y tu allan, mae ardal ddysgu o dan ganopi, sydd yn galluogi’r plant i chwarae a dysgu yn yr awyr iach pa bynnag dywydd a ddaw.
Bydd plant y meithrinfa yn chwarae mewn ardal benodol gyda llawr meddal – yno, mae pob mathau o adnoddau i’w diddanu! Yr holl ffordd o gwmpas yr adran gynradd ei hun mae yno iard mwy ar eu cyfer a fydd yn eu galluogi i reidio beiciau a chwarae yn fwy annibynnol pan fyddant ychydig yn hŷn.Rydym yn ffodus iawn hefyd bod coedwig ac ardal werdd gennym yn Ysgol Llanhari.