Clwb Brecwast

Clwb Brecwast Ysgol Llanhari

Rhedir gan Rhondda Cynon Taf

Am Ddim

Neuadd yr Adran Gynradd

Ar gael i ddisgyblion Meithrin – Flwyddyn 6

8:00 – 8:40 y.b.

Drysau a’r gofrestr yn cau am 8:15 y.b.

Agorir y giât ar flaen yr ysgol am 8:55 y.b. Gofynnir bod oedolyn yn hebrwng pob plentyn draw i fynedfa’r Adran Gynradd er mwyn iddynt gael eu cofrestru gan staff Clwb Brecwast.

Mae’n rhaid gwneud cais a chael cynnig lle gan yr Awdurdod Lleol er mynychu’r Clwb Brewast.

Gwnewch gais am glwb brecwast

Llun o’r fwydlen yma – Bwydlen Clwb Brecwast

Clwb Carco

Clwb Carco Llanhari

Menter Iaith Rhondda Cynon Taf sy’n rhedeg Clwb Carco Llanhari. Nod y clwb ydy darparu gofal plant y tu allan i oriau’r ysgol, gan gynnig amrywiaeth o weithgareddau chwarae mewn amgylchedd croesawgar a Chymraeg ei iaith. Cynnigir amgylchedd cefnogol ble y gall plant ymlacio neu gymryd rhan mewn gweithgareddau.

Neuadd yr Adran Gynradd

Dydd Llun – Dydd Iau

3:10 – 5:10 y.h.

Arweinydd: Miss Bethannie Hayes

Gwnewch Gais – Clwb Carco

Clybiau Allgyrsiol

Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a chlybiau cyffrous ar ôl ysgol i ddisgyblion yr Ardan Gynradd.

Gweler yr amserlen isod am wybodaeth ar beth rydyn ni’n cynnig y tymor hwn:

Clybiau Hydref