Fel ysgol, mae dysgu proffesiynol i staff o fewn yr ysgol ac i aelodau o staff ysgolion eraill yn rhan bwysig o’n gwaith codi safonau.

Mae gennym raglen gynhwysfawr o hyfforddiant mewnol ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf cawsom brofiad o gynllunio a darparu rhaglenni o’r radd uchaf i Gynghrair y Cyfnod Sylfaen a Gyda’n Gilydd yn y sector uwchradd. Rydym wedi arwain rhaglenni ar feysydd megis ymchwil weithredol a mentora a hyfforddi. Mae’r athrawon sy’n arwain ac yn cyfrannu at y rhaglenni yn elwa yn bersonol ac yn dysgu’n broffesiynol. Mae cymryd rôl flaenllaw fel yma wedi cael effaith gadarnhaol ar y disgyblion yn ogystal.