Yr Hafan:
Pwrpas Yr Hafan yn yr Adran Uwchradd yw darparu lleoliad tawel ar gyfer disgyblion ag anghenion cymdeithasol ac emosiynol a chynnig cymorth a chynhaliaeth er mwyn lleihau rhwystrau i ddysgu.
Mae dau gynorthwy-ydd dysgu ar gael i gefnogi disgyblion a chynnig sesiynau un i un megis PERMA ac ELSA. Mae’r Hafan ar agor bob amser egwyl a chinio i ddisgyblion sy’n chwilio am le tawel i fynd am sgwrs. Cynhelir gweithgareddau a chlybiau yno, er enghraifft clybiau YEPS. Mae staff Yr Hafan yn cyd-weithio’n agos â’r Pennaeth Cynorthwyol Lles a Chynhwysiant, yr Arweinwyr Safonau Cyrhaeddiad a’r Cydlynydd Lles i sicrhau bod pob disgybl yn derbyn cefnogaeth yn yr ysgol.
Rôl y Cydlynydd Lles
Mae’r Cydlynydd Lles yn cynnig cefnogaeth un i un i ddisgyblion. Mae’r cydlynydd yn gwrando ar ddisgyblion mewn ffordd gyfrinachol anfeirniadol, o fewn canllawiau diogelu, ac mae’n ymwneud â gofal a chefnogaeth disgyblion ac oedolion. Mae’r cydlynydd lles yn gweithredu fel pwynt cyswllt i nodi angen a chysylltiadau â chefnogaeth bellach. Mae ganddi wybodaeth werthfawr i nodi opsiynau ar gyfer cefnogaeth ac mae’n gallu cyfeirio at asiantaethau arbenigol sy’n cynnig dulliau i helpu disgyblion i gyflawni eu potensial. Gwneir gwaith uniongyrchol gyda rhieni hefyd i’w cefnogi. Mae’r Cydlynydd Lles yn gweithio gyda disgyblion ar draws yr ysgol ac yn cynllunio cefnogaeth i ddatblygu hunanhyder, parch a sgiliau i gyflawni potensial disgyblion. Mae hyrwyddo lles yr holl ddisgyblion gan gynnwys gofalwyr ifanc a disgyblion bregus yn rhan hanfodol o’r rôl yn ogystal â chefnogi strategaethau ysgol gyfan i sicrhau presenoldeb, cynnydd personol a chyflawniad.
Cymorth Llythrennedd a Rhifedd
Mae disgyblion yn yr adrannau cynradd ac uwchradd yn derbyn cymorth arbenigol llythrennedd a rhifedd gyda Chynorthwywyr Cynnal Dysgu sydd wedi eu hyfforddi i redeg ymyraethau “Dal i fyny”. Mae’r sesiynau yn cael eu cynnal i unigolion neu grŵp. Mae’r cynorthwywyr hefyd yn mynychu gwersi i roi cymorth i rai unigolion.