Bienvenue ! Mae astudio laith Ryngwladol yn agwedd hanfodol er mwyn paratoi pobl ifanc ar gyfer bywyd yn yr unfed ganrif ar hugain. Nod yr Adran leithoedd Rhyngwladol yw cynnig amgylchedd ddiddorol, creadigol a mentrus lle mae disgyblion yn dysgu cyfathrebu yn effeithiol ac yn hyderus yn yr iaith ryngwladol a hefyd yn darganfod am agweddau o ddiwylliant y wlad. Mae meistrolaeth mewn iaith yn datblygu talentau ar gyfer mentrau technolegol a sgiliau galwedigaethol sydd yn ychwanegu at sgiliau cyflogadwyedd ein disgyblion. Mae ein cwricwlwm yn yr iaith Ffrangeg yn cynnwys profiadau eang o themâu fel Cymru a’r Byd, Ysgol a Chyflogaeth, Cynaliadwyedd Byd-eang ac Arferion a Thraddodiadau. Mae’r themâu yma yn hybu’r feistrolaeth o ramadeg, strwythurau a geirfa, sgiliau trawsgwricwlaidd a chyfathrebu digidol. Rydym yn ceisio sicrhau bod pob disgybl o oedran cynradd i Lefel A yn cyflawni eu potensial tra’n eu datblygu i mewn i ddinasyddion Cymru a’r byd.
“The limits of my language means the limits of my world”
Ludwig Wittgenstein