Mae’r Adran TGCh yn anelu i ddarparu cwricwlwm cyffrous sy’n datblygu’r sgiliau a gwybodaeth angenrheidiol er mwyn i’n disgyblion lwyddo ymhob agwedd o fywyd. Nod yr Adran yw cyflwyno TGCh fel rhan annatod o gymdeithas yn y cartref ac ym myd gwaith a hamdden. Darparwn gwricwlwm eang, sy’n ysgogi diddordeb, chwilfrydedd a mwynhad o’r pwnc.
Dysgwn ein disgyblion i:
- ddefnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd
- gadw’n ddiogel ar-lein
- ddeall egwyddorion a chysyniadau sylfaenol Cyfrifiadureg
- ddatblygu sgiliau datrys problemau trwy rymuso disgyblion i feddwl yn greadigol, arloesol, dadansoddol, rhesymol a beirniadol.
- ystyried yr effaith moesegol, cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol y defnydd o dechnoleg ddigidol ar unigolion, sefydliadau a chymdeithas