Nod yr Adran Dylunio a Thechnoleg yw cyflwyno’r byd dylunio, ac yn ogystal yr amrywiaeth o gyfleoedd a phosibiliadau sydd i’w cael er mwyn i’n disgyblion lwyddo. Rydym am ddatblygu sgiliau allweddol ein dysgwyr fydd yn hanfodol i fod yn llwyddiannus ym myd Dylunio a Thechnoleg. Rydym yn darparu sgiliau a gwybodaeth pwnc benodol. Cefnogir disgyblion sydd am fynd ymlaen i yrfa broffesiynol yn y sector creadigol neu ar gyfer addysg uwch.
Rydym yn astudio amrywiaeth o bynciau o fewn technoleg, gyda’r bwriad o gyflwyno cwricwlwm a dealltwriaeth eang. Mae’r adran yn cynnig cwricwlwm a fydd yn ennyn diddordeb ac angerdd at y pwnc. Mae yna bwyslais cryf ar gynnwys tasgau ymarferol yn y prosiectau. Rhoddir cyfle i archwilio gweithgareddau ymarferol a fydd yn galluogi disgyblion i feistroli’r sgiliau a sicrhau gwybodaeth. Trwy wersi bywiog a rhyngweithiol mae’r disgyblion yn arbrofi gan ddefnyddio lawer o ddefnyddiau, technegau, offer a pheiriannau wrth ddylunio a chynhyrchu eu prosiectau.